Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad


Lleoliad:

Hybrid - Ystafell Bwyllgora 3, Senedd a fideogynadledda drwy Zoom

Dyddiad: Dydd Llun, 19 Ionawr 2026

Amser: 15.00 - 16.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
15719


Hybrid

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Mike Hedges AS (Cadeirydd)

Alun Davies AS

Mark Isherwood AS

Adam Price AS

Tystion:

Julie James AS, Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni

Dr James George, Llywodraeth Cymru

Dion Thomas, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

P Gareth Williams (Clerc)

Owain Davies (Ail Glerc)

Tom Lewis-White (Ail Glerc)

Gerallt Roberts (Ail Glerc)

Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

</AI1>

<AI2>

2       Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7

</AI2>

<AI3>

2.1   SL(6)696 - Gorchymyn Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 (Cychwyn Rhif 2) 2025

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI3>

<AI4>

2.2   SL(6)698 – Cod Ymarfer Treuliau Etholiadau Ymgeiswyr Unigol (Etholiadau’r Senedd) 2025

Trafododd y Pwyllgor y Cod a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI4>

<AI5>

2.3   SL(6)699 – Cod Ymarfer Gwariant Ymgyrch Pleidiau Gwleidyddol (Etholiadau’r Senedd) 2025

Trafododd y Pwyllgor y Cod a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI5>

<AI6>

2.4   SL(6)700 - Cod Ymarfer Gwariant Ymgyrch Ymgyrchwyr Nad Ydynt yn Bleidiau (Etholiadau’r Senedd) 2025

Trafododd y Pwyllgor y Cod a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru i dynnu sylw at anghysondebau rhwng testun Cymraeg a thestun Saesneg is-ddeddfwriaeth a drafodwyd gan y Pwyllgor.

</AI6>

<AI7>

3       Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

</AI7>

<AI8>

3.1   SL(6)694 - Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Symiau Trothwy) (Diwygio) (Cymru) 2025

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI8>

<AI9>

3.2   SL(6)697 - Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Newid Rhestrau ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2025

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI9>

<AI10>

3.3   SL(6)701 - Rheoliadau Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 (Parhau) 2026

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

</AI10>

<AI11>

3.4   SL(6)702 - Rheoliadau Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Isafbris Uned) (Cymru) (Diwygio) 2026

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

</AI11>

<AI12>

3.5   SL(6)703 - Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Costau Ardoll Ymwelwyr) (Cymru) 2026

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI12>

<AI13>

4       Offerynnau sy’n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes

</AI13>

<AI14>

4.1   SL(6)677 - Rheoliadau Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 (Darpariaethau Canlyniadol, Darpariaeth Drosiannol, Darpariaeth Ddirymu a Darpariaeth Arbed) 2025

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

</AI14>

<AI15>

4.2   SL(6)692 - Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darparu Gwybodaeth am Newidiadau mewn Amgylchiadau) (Cymru) 2026

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

</AI15>

<AI16>

4.3   SL(6)693 - Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Disgowntiau, Diystyriadau ac Esemptiadau) (Cymru) 2026

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

</AI16>

<AI17>

5       Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7 – trafodwyd eisoes

</AI17>

<AI18>

6       Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

</AI18>

<AI19>

6.1   Gohebiaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru: Cyfarfodydd y grwpiau rhyngweinidogol

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol.

</AI19>

<AI20>

6.2   Gohebiaeth oddi wrth Brif Weinidog Cymru: Adroddiad Blynyddol y Cytundeb Treftadaeth Geltaidd

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Brif Weinidog Cymru.

</AI20>

<AI21>

7       Papurau i’w nodi

</AI21>

<AI22>

7.1   Gohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru)

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.

</AI22>

<AI23>

7.2   Gohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant:  Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Magnesiwm L-threonad monohydrad) (Cymru) 2026

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.

</AI23>

<AI24>

7.3   Gohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip:  Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) Llywodraeth Cymru ar y Bil Dioddefwyr a'r Llysoedd

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip.

</AI24>

<AI25>

7.4   Gohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig:  Mabwysiadu penderfyniadau digonolrwydd data newydd y DU gan y Comisiwn Ewropeaidd

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.

</AI25>

<AI26>

8       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 9, 10, 13 a 14

Derbyniwyd y cynnig.

</AI26>

<AI27>

9       Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyllid (Rhif 2).

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i drafod adroddiad drafft yn ei gyfarfod nesaf.

</AI27>

<AI28>

10    Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes)

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft, a nododd ei ohebiaeth at y Pwyllgor Busnes. Cytunodd y Pwyllgor i drafod fersiwn ddiwygiedig o'r adroddiad drafft yn ei gyfarfod nesaf.

</AI28>

<AI29>

11    Bil Cynllunio (Cymru) - Trafodion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor

Roedd Mark Isherwood yn absennol pan drafodwyd gwelliannau i’r Bil Cynllunio (Cymru) a phan gynhaliwyd pleidlais arnynt. 

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.21, gwaredodd y Pwyllgor y gwelliannau a ganlyn i'r Bil:  

 

Gwaredwyd gwelliannau 1 a 2 gyda’i gilydd.

 

Derbyniwyd gwelliannau 1 a 2 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). 

 

Gan fod pob gwelliant wedi’i waredu, cadarnhaodd y Cadeirydd fod trafodion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor ar gyfer y Bil wedi’u cwblhau. 

</AI29>

<AI30>

12    Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) - Trafodion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor

Roedd Mark Isherwood yn absennol pan drafodwyd gwelliannau 1 i 19 i’r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) a phan gynhaliwyd pleidlais arnynt. 

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.21, gwaredodd y Pwyllgor y gwelliannau a ganlyn i'r Bil:  

 

Derbyniwyd gwelliant 1 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). 

 

Derbyniwyd gwelliant 2 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). 

 

Gwaredwyd gwelliannau 4, 5, 6 a 7 gyda’i gilydd.

 

Derbyniwyd gwelliannau 4, 5, 6 a 7 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). 

 

Derbyniwyd gwelliant 8 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). 

 

Derbyniwyd gwelliant 9 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). 

 

Derbyniwyd gwelliant 10 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). 

 

Derbyniwyd gwelliant 11 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). 

 

Derbyniwyd gwelliant 12 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). 

 

Derbyniwyd gwelliant 13 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). 

 

Derbyniwyd gwelliant 14 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). 

 

Derbyniwyd gwelliant 15 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). 

 

Derbyniwyd gwelliant 16 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). 

 

Derbyniwyd gwelliant 17 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). 

 

Derbyniwyd gwelliant 18 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). 

 

Derbyniwyd gwelliant 19 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). 

 

Derbyniwyd gwelliant 20 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). 

 

Derbyniwyd gwelliant 21 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). 

 

Derbyniwyd gwelliant 22 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). 

 

Gan fod pob gwelliant wedi’i waredu, cadarnhaodd y Cadeirydd fod trafodion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor ar gyfer y Bil wedi’u cwblhau. 

</AI30>

<AI31>

13    Bil Cynllunio (Cymru) a Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru):  Camau nesaf Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor

Cytunodd yr Aelodau i drafod adroddiad drafft ar ei ystyriaeth o’r Bil Cynllunio (Cymru) a’r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) yn Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor yn ei gyfarfod nesaf.

</AI31>

<AI32>

14    Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2 a Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Tanwydd Hedfan Cynaliadwy

Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft.

</AI32>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>